Cyngor Rhyng-ffydd Cymru
Mae arweinyddion Cyngor Rhyng-ffydd Cymru yn galw ar gymunedau ffydd Cymru i sicrhau na chaiff eu hadeiladau eu defnyddio ar gyfer addoliad cyhoeddus, na chyfarfodydd cyhoeddus, hyd nes y ceir canllawiau pellach am argyfwng Coronafeirws (COVID-19). Mae’r Cyngor Rhyng-ffydd, sy’n cynnwys y rhan fwyaf o gymunedau ffydd Cymru yn ei aelodaeth, yn cyhoeddi’r cais brys hwn yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth a’r cyngor a gynigir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hefyd yn tanlinellu’r arweiniad a’r cyfarwyddiadau sydd eisoes yn cael eu cyhoeddi gan y rhan fwyaf o arweinwyr cymunedau ffydd yng Nghymru. Mae canllawiau wedi’u cynnig ynghylch addoli yn y cartref neu drwy ddulliau cymwys eraill.
Yn y cyfnod heriol hwn, mae Cyngor Rhyng-ffydd Cymru yn annog cymunedau ffydd i feithrin ac amddiffyn eu gilydd, a’r rheini o’u hamgylch, drwy ddilyn y cyngor a gynigir gan Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu hymdrechion i ffrwyno lledaeniad COVID-19.
Dywedodd arweinwyr Cyngor Rhyg-Ffydd Cymru “Fel pobl ffydd, ni ddylem roi iechyd ein gilydd mewn perygl drwy gyfarfod yn groes i gyngor sy’n hysbys i ni. Ni ddylem beri risg i’r rhai yn y gymuned ehangach a allai ddod i gysylltiad â ni. Dylem chwarae ein rhan, heb gael ein gorfodi i wneud hynny, i sicrhau lles eraill a’n cymunedau.”
Kate McColgan (Cadeirydd)
Surinder Channa (Is-Gadeirydd)
Aled Edwards (Ysgrifennydd)
Saleem Kidwain (Trysorydd)